2015 Rhif 1494 (Cy. 166)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywr nodyn hwn yn rhan or Rheoliadau)

Mae adran 195 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf 2014) yn darparu ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion Deddf 2014 ac ar gyfer dyfarnu ar anghydfodau rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn o dan adran 56 o Ddeddf 2014 (hygludedd gofal a chymorth) ynghylch cymhwysor adran honno mewn perthynas â pherson.

Maer Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch datrys anghydfodau or fath ac yn nodir gweithdrefnau sydd iw dilyn pan fydd anghydfodaun codi.

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys hefyd i anghydfod rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch ble yr oedd person yn preswylio fel arfer at ddibenion adran 117(3) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal). Mae adran 117(4) o’r Ddeddf honno yn darparu bod adran 195 o Ddeddf 2014 yn gymwys i anghydfod or fath fel y maen gymwys i anghydfod ynghylch bler oedd person yn preswylio fel arfer at ddibenion Deddf 2014.

Mae rheoliad 2 yn nodi pa awdurdod lleol syn gyfrifol am ddiwallu anghenion unigolyn hyd nes y caiff yr anghydfod ei ddatrys.

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer y camau sydd iw cymryd gan awdurdodau lleol i geisio datrys yr anghydfod cyn ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru ddyfarnu arno o dan adran 195 or Ddeddf.

Mae rheoliad 4 yn nodir ddogfennaeth sydd iw darparu gan awdurdodau lleol wrth wneud atgyfeiriad.

Mae rheoliadau 5 a 6 yn nodi fersiynau or darpariaethau hyn sydd wedi eu haddasu ychydig ar gyfer achosion penodol syn codi o dan adran 189 or Ddeddf.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer adolygu dyfarniadau. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer ad-dalu rhwng awdurdodau lleol os effaith dyfarniad diwygiedig yn dilyn adolygiad yw nad oedd symiau a dalwyd o dan ddyfarniad blaenorol yn ddyledus.


2015 Rhif 1494 (Cy. 166)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015

Gwnaed                             7 Gorffennaf 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       10 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 195(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enwr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Anghydfodau ynghylch Preswylfa Arferol, etc.) (Cymru) 2015.

(2) Dawr Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn

ystyr anghydfod (dispute) yw anghydfod

(a)     rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf,

(b)     rhwng awdurdod lleol anfon ac awdurdod lleol derbyn o dan adran 56 or Ddeddf (hygludedd gofal a chymorth) ynghylch cymhwysor adran honno, neu

(c)     rhwng awdurdodau lleol ynghylch cymhwyso adran 189 or Ddeddf (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol);

ystyr yr awdurdod arweiniol (the lead authority), mewn perthynas ag anghydfod, ywr awdurdod lleol sydd (o ganlyniad i reoliad 2 neu fel arall)

(a)     yn diwallu anghenion y person y maer anghydfod yn ymwneud ag ef, neu ofalwr dros y person hwnnw, ar y dyddiad y maer anghydfod yn codi, neu

(b)     os nad oes unrhyw awdurdod lleol yn diwallu’r anghenion hynny ar y dyddiad hwnnw, o dan ofyniad i wneud hynny gan reoliad 2(3);

 

 ystyr atgyfeirir” ac “yn cael ei atgyfeirio (referred) yw atgyfeirio i gael dyfarniad arno gan y person priodol, ac mae atgyfeirio (refer) ac “atgyfeiriad” (referral”) iw dehongli yn unol â hynny;

ystyr y Ddeddf (the Act) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr y person priodol (the appropriate person) ywr person y mae anghydfod i’w ddyfarnu arno ganddo yn unol ag adran 195(1) or Ddeddf.

(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y dyddiad y mae anghydfod yn codi yn gyfeiriadau at y dyddiad cyntaf yr anfonir cyfathrebiad ysgrifenedig arno gan un or awdurdodau lleol (yr awdurdod cyntaf) at un arall or awdurdodau lleol (yr ail awdurdod) sydd (yn ôl y digwydd)

(a)     yn honni nad ywr person y maer anghydfod yn ymwneud ag ef, ym marn yr awdurdod cyntaf, yn preswylio fel arfer yn ei ardal at ddibenion y Ddeddf, neu fod y person yn preswylio fel arfer yn ardal yr ail awdurdod at y dibenion hynny,

(b)     yn codi mater ynghylch cymhwyso adran 56 or Ddeddf, neu

(c)     yn codi mater ynghylch cymhwyso adran 189 or Ddeddf.

(5) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at “yr awdurdodau” yn gyfeiriad at yr awdurdodau syn bartïon i anghydfod ac mae’n cynnwys (pan fon wahanol) gyfeiriad at yr awdurdod arweiniol mewn perthynas âr anghydfod hwnnw.

Cyfrifoldeb am ddiwallu anghenion tra bo anghydfod heb ei ddatrys

2.(1)(1) Ni chaiff yr awdurdodau ganiatáu i fodolaeth yr anghydfod atal diwallu, oedi cyn diwallu, ymyrryd â diwallu, neu effeithion andwyol fel arall ar ddiwallu, anghenion y person y maer anghydfod yn ymwneud ag ef neu anghenion gofalwr y person hwnnw.

(2) Rhaid ir awdurdod lleol syn diwallu anghenion y person neur gofalwr ar y dyddiad y maer anghydfod yn codi barhau i ddiwallur anghenion hynny hyd nes y caiff yr anghydfod ei ddatrys.

(3) Os nad oes unrhyw awdurdod lleol yn diwallur anghenion ar y dyddiad y maer anghydfod yn codi

(a)     rhaid ir awdurdod lleol y maer person y maer anghydfod yn ymwneud ag ef yn byw yn ei ardal, neu

(b)     os nad ywr person y maer anghydfod yn ymwneud ag ef yn byw yn ardal unrhyw awdurdod lleol, rhaid ir awdurdod lleol y maer person hwnnwn bresennol yn ei ardal

gyflawni, hyd nes y caiff yr anghydfod ei ddatrys, y dyletswyddau o dan y Ddeddf mewn cysylltiad âr person ac unrhyw ofalwr y person hwnnw fel petair person yn preswylio fel arfer yn ei ardal.

(4) Os ywr ddyletswydd o dan baragraff (3) iw chyflawni gan awdurdod lleol (A) nad ywn un or awdurdodau sydd eisoes yn barti ir anghydfod, rhaid ir awdurdodau hynny, yn ddi-oed, dynnu sylw A at

(a)     dyletswydd A o dan y paragraff hwnnw, a

(b)     statws A fel yr awdurdod arweiniol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(5) Nid yw A o dan y dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn tan y dyddiad y dawn ymwybodol, neu y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddo fod wedi bod yn ymwybodol, oi statws fel yr awdurdod arweiniol.

(6) Pan for anghydfod yn ymwneud â chymhwyso adran 56 (hygludedd gofal a chymorth), rhaid ir awdurdodau gyflawnir dyletswyddau o dan yr adran honno er gwaethaf bodolaeth yr anghydfod.

Y camau sydd iw cymryd cyn atgyfeirio anghydfod

3.(1)(1) Rhaid ir awdurdodau, cyn atgyfeirior anghydfod, gymryd y camau a bennir yn y rheoliad hwn.

(2) Cyn gynted ag y bon rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y maer anghydfod yn codi

(a)     rhaid ir awdurdod arweiniol geisio canfod yr holl awdurdodau eraill sydd â rhan yn yr anghydfod a chydgysylltu trafodaethau rhwng yr awdurdodau hynny mewn ymgais i ddatrys yr anghydfod, a

(b)     rhaid i bob un or awdurdodau enwebu unigolyn a fydd yn gweithredu fel y pwynt cyswllt o fewn yr awdurdod hwnnw mewn perthynas âr anghydfod, a rhoi manylion cyswllt yr unigolyn hwnnw ir awdurdodau eraill.

(3) Rhaid ir awdurdod arweiniol

(a)     cydgysylltur modd y maer awdurdodau yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y rheoliad hwn,

(b)     cymryd camau i sicrhau oddi wrth yr awdurdodau eraill wybodaeth a allai fod yn berthnasol ir dyfarniad ar yr anghydfod,

(c)     datgelur wybodaeth honno i unrhyw awdurdod arall, a

(d)     datgelu ir awdurdodau eraill unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod arweiniol ei hun yn ei dal ac a allai helpu i ddatrys yr anghydfod.

(4) Rhaid ir awdurdodau

(a)     cymryd pob cam rhesymol i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, a

(b)     cydweithredu âi gilydd wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan y rheoliad hwn.

(5) Rhaid i bob un or awdurdodau

(a)     cynnal deialog adeiladol gydar awdurdodau eraill, gyda golwg ar beri ir anghydfod gael ei ddatrys yn gyflym,

(b)     cydymffurfio, yn ddi-oed, ag unrhyw gais rhesymol am wybodaeth berthnasol a wneir gan yr awdurdod arweiniol, ac

(c)     hysbysur awdurdodau eraill yn rheolaidd am unrhyw ddatblygiadau y maen ymddangos iddo eu bod yn berthnasol ir dyfarniad ar yr anghydfod.

(6) Rhaid ir awdurdod arweiniol ddarparu ir personau y mae paragraff (7) yn gymwys iddynt unrhyw wybodaeth y maen ymddangos iddo ei bod yn briodol am gynnydd i ddatrys yr anghydfod.

(7) Maer paragraff hwn yn gymwys ir personau canlynol

(a)     y person y maer anghydfod yn ymwneud ag ef,

(b)     gofalwr y person hwnnw (os ywr anghydfod yn ymwneud â pha awdurdod sydd i ddiwallu anghenion gofalwr), ac

(c)     person syn cynrychiolir person neur gofalwr.

(8) Os nad yw’r awdurdodau yn gallu datrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain o fewn pedwar mis i’r dyddiad y cododd yr anghydfod, rhaid ir awdurdod arweiniol ei atgyfeirio at y person priodol.

Atgyfeirio: anghydfodau ynghylch preswylfa arferol neu hygludedd gofal a chymorth

4.(1)(1) Rhaid ir atgyfeiriad gynnwys y dogfennau canlynol

(a)     llythyr a lofnodwyd gan yr awdurdod arweiniol mewn perthynas âr anghydfod,

(b)     datganiad or ffeithiau a lofnodwyd ar ran pob un or awdurdodau syn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ac

(c)     copïau or holl ohebiaeth rhwng yr awdurdodau syn ymwneud âr anghydfod.

(2) Yr wybodaeth benodedig yw

(a)     esboniad o natur yr anghydfod,

(b)     cronoleg y digwyddiadau a arweiniodd at atgyfeirior anghydfod, gan gynnwys y dyddiad y cododd yr anghydfod,

(c)     y manylion am anghenion y person y maer anghydfod yn ymwneud ag ef (y person perthnasol) o ddechraur cyfnod y maer anghydfod yn ymwneud ag ef,

(d)     os ywr anghydfod yn ymwneud â pha awdurdod sydd i ddiwallu anghenion gofalwr, y manylion am anghenion y gofalwr o ddechraur cyfnod y maer anghydfod yn ymwneud ag ef,

(e)     datganiad ynghylch pa awdurdod sydd wedi diwallur anghenion hynny ers dechraur cyfnod y maer anghydfod yn ymwneud ag ef, sut y cafodd yr anghenion hynny eu diwallu ar darpariaethau statudol y cawsant eu diwallu odanynt,

(f)      y manylion am fan preswylior person perthnasol, ac am unrhyw fannau preswylio blaenorol syn berthnasol ir anghydfod,

(g)     mewn achos pan fo galluedd y person perthnasol i benderfynu ble i fyw yn berthnasol ir anghydfod, naill ai

                           (i)    datganiad bod yr awdurdodaun cytuno bod gan, neu nad oes gan, y person alluedd or fath, neu

                         (ii)    gwybodaeth y maen ymddangos i unrhyw un neu ragor or awdurdodau ei bod yn berthnasol ir cwestiwn ynghylch a oes gan, neu a nad oes gan, y person alluedd or fath,

(h)     datganiad ynghylch unrhyw gamau eraill a gymerwyd gan yr awdurdodau mewn perthynas âr person perthnasol neu ei ofalwr, ac a all fod yn berthnasol ir anghydfod,

(i)      y manylion am y camau y maer awdurdodau wedi eu cymryd i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, a

(j)      unrhyw wybodaeth arall y maen ymddangos i unrhyw un neu ragor or awdurdodau ei bod yn berthnasol ir dyfarniad ar yr anghydfod.

(3) Rhaid ir awdurdodau gyflwyno unrhyw ddadleuon cyfreithiol y maent yn dibynnu arnynt mewn perthynas âr anghydfod o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr atgyfeirir yr anghydfod.

(4) Os yw awdurdod yn cyflwyno dadleuon cyfreithiol, rhaid iddo

(a)     anfon copi or dadleuon hynny at yr awdurdodau eraill, a

(b)     darparu tystiolaeth ir person priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(5) Os ywr person priodol yn gofyn i unrhyw un neu ragor or awdurdodau ddarparu gwybodaeth bellach, rhaid ir awdurdod lleol y gwneir cais hwn iddo gydymffurfo ag ef yn ddi-oed.

(6) Nid ywr rheoliad hwn yn gymwys i achos y mae rheoliad 5 neu 6 yn gymwys iddo.

Atgyfeirio: anghydfodau ynghylch cydweithredu o dan adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)

5.(1)(1) Maer rheoliad hwn yn gymwys i anghydfod sy’n ymwneud yn unig â chymhwyso adran 189(7)(a) neu (b) or Ddeddf (dyletswydd i gydweithredu).

(2) Rhaid ir atgyfeiriad gynnwys y dogfennau canlynol

(a)     llythyr a lofnodwyd gan yr awdurdod arweiniol mewn perthynas âr anghydfod, yn datgan bod yr anghydfod yn cael ei atgyfeirio,

(b)     datganiad or ffeithiau a lofnodwyd ar ran pob un or awdurdodau syn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (3), ac

(c)     copïau or holl ohebiaeth rhwng yr awdurdodau syn ymwneud âr anghydfod.

(3) Yr wybodaeth benodedig yw

(a)     esboniad o natur yr anghydfod,

(b)     cronoleg y digwyddiadau a arweiniodd at atgyfeirior anghydfod, gan gynnwys y dyddiad y cododd yr anghydfod,

(c)     y manylion am y camau y maer awdurdodau wedi eu cymryd i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, a

(d)     unrhyw wybodaeth arall y maen ymddangos i unrhyw un neu ragor or awdurdodau ei bod yn berthnasol ir dyfarniad ar yr anghydfod.

(4) Rhaid ir awdurdodau gyflwyno unrhyw ddadleuon cyfreithiol y maent yn dibynnu arnynt mewn perthynas âr anghydfod o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr atgyfeirir yr anghydfod.

(5) Os yw awdurdod yn cyflwyno dadleuon cyfreithiol, rhaid iddo

(a)     anfon copi or dadleuon hynny at yr awdurdodau eraill, a

(b)     darparu tystiolaeth ir person priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(6) Os ywr person priodol yn gofyn i unrhyw un neu ragor or awdurdodau ddarparu gwybodaeth bellach, rhaid ir awdurdod lleol y gwneir y cais hwn iddo gydymffurfo ag ef yn ddi-oed.

Atgyfeirio: anghydfodau ynghylch costau a dynnwyd o dan adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)

6.(1)(1) Maer rheoliad hwn yn gymwys i anghydfod sy’n ymwneud yn unig â chymhwyso adran 189(7)(c) or Ddeddf (adennill costau).

(2) Rhaid ir atgyfeiriad gynnwys y dogfennau canlynol

(a)     llythyr a lofnodwyd gan yr awdurdod arweiniol mewn perthynas âr anghydfod, yn datgan bod yr anghydfod yn cael ei atgyfeirio,

(b)     datganiad or ffeithiau a lofnodwyd ar ran pob un or awdurdodau syn cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (3), ac

(c)     copïau or holl ohebiaeth rhwng yr awdurdodau syn ymwneud âr anghydfod.

(3) Yr wybodaeth benodedig yw

(a)     esboniad o natur yr anghydfod,

(b)     cronoleg y digwyddiadau a arweiniodd at atgyfeirior anghydfod, gan gynnwys y dyddiad y cododd yr anghydfod,

(c)     y manylion am anghenion y person y maer anghydfod yn ymwneud ag ef (y person perthnasol) o ddechraur cyfnod y maer anghydfod yn ymwneud ag ef,

(d)     os ywr anghydfod yn ymwneud â pha awdurdod sydd i ddiwallu anghenion gofalwr, y manylion am anghenion y gofalwr o ddechraur cyfnod y maer anghydfod yn ymwneud ag ef,

(e)     datganiad ynghylch pa awdurdod sydd wedi diwallur anghenion hynny ers dechraur cyfnod y maer anghydfod yn ymwneud ag ef, sut y cafodd yr anghenion hynny eu diwallu ar darpariaethau statudol y cawsant eu diwallu odanynt,

(f)      gwybodaeth am y costau y ceisir eu hadennill, gan gynnwys dadansoddiad or costau hynny,

(g)     y manylion am y camau y maer awdurdodau wedi eu cymryd i ddatrys yr anghydfod rhyngddynt hwy eu hunain, ac

(h)     unrhyw wybodaeth arall y maen ymddangos i unrhyw un neu ragor or awdurdodau ei bod yn berthnasol ir dyfarniad ar yr anghydfod.

(4) Rhaid ir awdurdodau gyflwyno unrhyw ddadleuon cyfreithiol y maent yn dibynnu arnynt mewn perthynas âr anghydfod o fewn 14 o ddiwrnodau i’r dyddiad yr atgyfeirir yr anghydfod.

(5) Os yw awdurdod yn cyflwyno dadleuon cyfreithiol, rhaid iddo

(a)     anfon copi or dadleuon hynny at yr awdurdodau eraill, a

(b)     darparu tystiolaeth ir person priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(6) Os ywr person priodol yn gofyn i unrhyw un neu ragor or awdurdodau ddarparu gwybodaeth bellach, rhaid ir awdurdod lleol y gwneir y cais hwn iddo gydymffurfo ag ef yn ddi-oed.

Adolygu dyfarniadau

7.(1)(1) Caiff awdurdod wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygur dyfarniad.

(2) Rhaid i unrhyw gais or fath gael ei wneud o fewn tri mis i ddyddiad y dyfarniad.

(3) Caniateir i adolygiad gael ei gynnal gan Weinidogion Cymru (pun ai mewn ymateb i gais neu fel arall).

(4) Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhaur dyfarniad neu roi dyfarniad gwahanol yn ei le.

Dyfarniadau a amnewidiwyd

8.(1)(1) Pan fo

(a)     adolygiad o ddyfarniad wedi ei gynnal yn unol â rheoliad 7 a bod dyfarniad gwahanol wedi ei roi yn ei le,

(b)     awdurdod lleol (A), o ganlyniad ir dyfarniad cyntaf, wedi talu swm i awdurdod lleol arall (B), ac

(c)     effaith yr ail ddyfarniad yn golygu nad oedd yn ofynnol i rywfaint neur cyfan or swm a dalwyd gan A i B gael ei dalu,

rhaid i B ad-dalu i A y swm nad oedd yn ofynnol iddo gael ei dalu.

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

7 Gorffennaf 2015

 



([1])   2014 dccc 4.